Fe'm siomwyd gan bleserau'r llawr, Fe'm twyllwyd gan bob un; Ffowch bob eilunod, rhois ffarwel I ddaear ac i ddyn. Ni throf fy wyneb byth yn ol I 'mofyn pleser gau; Ond mi a gerddaf tu a'r wlad Sy a'i phleser i barhau. Ond my'd tan ganu tu a'r wlad, Bwrcaswyd i mi fyw; A gadael byth y'mhell o'm hol, Gystuddiai o bob rhyw. Mae holl deganau'r ddaear hon, Fu gynt yn fawr eu grym, Yn ngŵydd fy Iesu yn gwywo i gyd, Ac yn diflanu'n ddim. Mae seintiau'n diangc at eu Duw, Yn filoedd o fy mlaen; A mi'n amddifad yma'n byw, Ynghanol dw'r a thân. Ac mi debyga' clywai sŵn, Nefolaidd rai o'm blaen; Wedi concwerio a myned trwy Dymhestloedd dw'r a thân. Y mae aroglau pur ei ras Megys aroglau'r nef; Ac nid oes gymhar is yr haul Yn unlle iddo Ef. Mae'n denu'm serch trwy wyntoedd oer Yn gyfan ato'i hun; Ac fe ddiffoddodd bob rhyw chwant At ddaear, ac at ddyn. Y parch a'r enw aed o'r bron I benefigion byd; Ond gad fy enaid, Iesu, i gael Dy gwmpni gwerthfawr drud. Fe dorrwyd rhyngof fi a'm chwant, Daeth ar fy mhleser drai; Ond fy hapusrwydd perffaith yw Dy garu a'th fwynhau. O tyred Yspryd sanctaidd pur, Nertha 'mlinedig draed; A rho i mi olwg oleu clir, Ar hyfryd dir fy ngwlad.
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
I am disappointed by the pleasures of earth, I am deceived by every one; Flee ye, every idol, I bade farewell To earth and to man. I will never turn back my face To seek empty pleasure; But I will walk towards the land Whose pleasures are to endure. But go singing towards the land, Purposed for me to live; And leave forever far behind me, Afflictions of every kind. All the trinkets of this earth are, Which formerly had great force, In the face of Jesus all withering, And disappearing to nothing. Saints are safely to their God, In thousands before me; And I destitute here living, Amidst water and fire. And I suppose I could hear the sound, Of heavenly ones ahead of me; Having conquered and gone through Tempests of water and fire. The pure odours of his grace are Like the odours of heaven; And there is nothing comparable under the sun Anywhere unto Him. He attracts my affection through cold winds Wholly towards him himself; And every kind of desire extinguished Towards earth, and towards man. May the reverence and the name go completely To the nobles of the world; But let my soul, Jesus, get Thy precious, dear company. A separation came between me and my desire, An ebbing came upon my pleasure; But my perfect happiness is To love thee and to enjoy thee. O come, pure holy Spirit, Strengthen my exhausted feet; And give me a view of clear light, Over the delightful land of my country. tr. 2015,20 Richard B Gillion |
|